Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
25 Hydref 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4653
------
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 6 chwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Gofynnwyd y 3 chwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 14.33
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio, yn dilyn ei lansiad ar 20 Hydref 2017?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (atebwyd gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes):
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i ddata sy’n dangos bod myfyrwyr o Gymru yn cyfrif am 2 y cant yn unig o’r myfyrwyr a dderbyniwyd i Rydychen a Chaergrawnt y llynedd?
Dechreuodd yr eitem am 14.44
Gwnaeth Darren Millar ddatganiad i nodi 500 mlynedd ers y Diwygiad Protestanaidd.
Gwnaeth Dawn Bowden ddatganiad ar ail-gyhoeddi plac ym Merthyr Tudful i goffáu gwirfoddolwyr y Frigâd Ryngwladol o’r ardal a fu’n ymladd yn Rhyfel Cartref Sbaen.
Gwnaeth Jenny Rathbone ddatganiad ar y Cynadleddau Llysiau a gynhaliwyd ar yr un pryd yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin ar 24 Hydref.
Dechreuodd yr eitem am 14.49
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6350 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n addasu'r broses gynllunio fel bod rhagdybiaeth yn erbyn hollti hydrolig (ffracio).
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai amddiffyn tirwedd Cymru ac iechyd y cyhoedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
6 |
0 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Dechreuodd yr eitem am 15.19
NDM6547 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr ymchwiliad i dlodi yng Nghymru, 'Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Hydref 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.19
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6546 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu na ddylid gweithredu treth dwristiaeth yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod Deddf Cymru 2014 yn cynnwys pwerau i Gymru gynnig trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig;
b) bwriad Llywodraeth Cymru i brofi cyfundrefn Deddf Cymru ar gyfer cynnig a chyflwyno trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig;
c) yn dilyn adborth gan y cyhoedd bod treth dwristiaeth bosib wedi'i nodi fel cynnig i'w ystyried; a
d) nad oes penderfyniad wedi'i wneud i gyflwyno treth newydd yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
26 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6546 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod Deddf Cymru 2014 yn cynnwys pwerau i Gymru gynnig trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig;
b) bwriad Llywodraeth Cymru i brofi cyfundrefn Deddf Cymru ar gyfer cynnig a chyflwyno trethi newydd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig;
c) yn dilyn adborth gan y cyhoedd bod treth dwristiaeth bosib wedi'i nodi fel cynnig i'w ystyried; a
d) nad oes penderfyniad wedi'i wneud i gyflwyno treth newydd yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
9 |
17 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.28
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6549 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder ynghylch cyflwyno’r credyd cynhwysol.
2. Yn credu y dylid datganoli rheolaeth weinyddol dros les fel y gall Llywodraeth Cymru newid amlder y taliadau, dod â'r diwylliant o sancsiynau i ben, a sicrhau bod taliadau yn mynd i unigolion nid cartrefi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
44 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y pryder sy'n bodoli ynghylch cyflwyno credyd cynhwysol.
2. Yn croesawu'r egwyddorion y tu ôl i'r credyd cynhwysol, sef rhoi help llaw i bobl gael gwaith, ac yn nodi pan y rhagwelwyd credyd cynhwysol gan y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, canfuodd fod y rhan fwyaf o bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn awyddus i weithio ond yn cael eu dal yn ôl gan system nad yw'n ysgogi cyflogaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 ac ychwanegu pwyntiau newydd:
Yn nodi'r effaith ddinistriol ar deuluoedd sy'n agored i niwed o ran pryder, dyled, digartrefedd a salwch meddwl yn sgil cyflwyno'r credyd cynhwysol sy'n rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig.
Yn credu ei bod yn un o egwyddorion sylfaenol pwysig y wladwriaeth les y dylid rhannu risgiau yn deg ar draws cymdeithas ac y dylid rheoli costau a thaliadau lles a'r broses weinyddu lles ar lefel y DU, felly.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei thoriadau niweidiol i les, oedi cyn cyflwyno'r credyd cynhwysol a mynd i'r afael â'r pryderon sylfaenol sy'n cael eu codi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
21 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6549 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
21 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.25
Dechreuodd yr eitem am 18.30
NDM6548 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Darparu gofal sylfaenol yn Llanidloes: dull arloesol o leddfu'r pwysau ar feddygon teulu.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.51
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 7 Tachwedd 2017